DNNIS COSLETT
Rebel Heart.
Penfelyn
Cofiwn amdanat pob blwyddyn penfelyn
ti a'th lygaid glas mor ddisglair gynt.
Nid nepell o Afon Irfon ym mhridd
y blodau gwyllt, dy wrn a'th lwch
osodwn, i'th gofio di am byth.
Terfysgwr gefaist dy alw gan elynion
Gwalia ân, ond ti oroesaist dy
gornel fel milwr dewr mor lân.
Toron mewn i'th gartref di, gan
chwilio am hyn ar llall, a thorri
llestri gorau dy fam, tra 'roeddet
yn chwildro dros dy wlad.
Ger beddrod Llywelyn, sigâr y smygaist,
ei phersawr aroglais yn nannedd y gwynt.
O wyntoedd oer-rhew'r Hydref, ti
a'th chwiban hyll, chwyth y dail
o anterth y coed, i'w guddio ef am byth.
Daw adar bach y nefoedd i nythu yn y
man, a chysgu'n gynnes rhwng y dail,
ar wely yr arwr hwn.
Ar ôl y machludd, ar lleni'n
cuddio'r nen, ein milwyr ni a'th
henffych di fel pennaeth gwych dros ben.
Tyrd allan o dan gysgod Llywelyn,
dy ddelwedd dymunwn ei weld, yn
gwisgo tarian o arian, a choron ar dy ben.
No comments:
Post a Comment