AR LAN Y MÖR
Ar an y môr mae rhosys cochion,
Ar lan y môr mae lilis gwynion
Ar lan y môr mae 'nghariad inne
Yn cysgu'r nos a chodi'r bore.
Ar lan y môr mae carreg wastad,
Lle bûm yn siarad gair a'm cariad
O amgylch hon fe dyf y lili
Ac ambell sprigyn o rosmari.
Ar lan y môr mae cerrig gleision,
Ar lan y môr mae blodau'r meibion
Ar lan y môr mae pob rhinwedde.
Ar lan y môr mae 'nghariad inne.
Mor hardd yw'r haul yn codi'r bore,
Mor hardd yw'r enfys aml ei lliwiau
Mor hardd yw natur ym Mehefin,
Ond harddach fyth yw wyneb Elin.
Llawn yw'r môr o swnd a chregyn,
Llawn yw'r wy o wyn a melyn
Llawn yw'r coed o ddail a blodau.
Llawn o gariad merch wyf innau.
Dros y môr y mae fy nghalon,
Dros y ôr y mae 'ngobeithion
Dros y môr y mae f'anwylyd
Sydd yn fy meddwl i bob munud.
No comments:
Post a Comment