CANT O GANEUON
Y Flwyddyn 1861
Deuddeg Penill i'r Deuddeng Mis
l
Esgorodd Tragwyddoldeb,
Ar flwyddyn fach i'r byd:
Gwlaw Ionawr ylch ei gwyneb,
A'r gwynt a sigla 'i chryd.
ll
Dilladwyd hi mewn gwrthban,
O eira cynes tew,
A chap a bordor llydan,
A startsiwyd gan y rhew.
lll
Yn Mawrth mae'r Flwyddyn fechan,
Yn cropian efo'r coed:
Gan fyn'd i'r ardd a'r berllan,
Ar ysgafn flaen ei throed.
lV
Yn Ebrill gwisga 'r llances,
Os na bydd rhyw anhap,
Flaguryn ar ei mynwes
A blodyn yn ei chap
V
Daw Mai a llon'd ei breichiau
O'r ceinion tlysaf wnaed,
Gan wlith, a gwlaw, ac heulwen,
A thafl hwy wrth ei thraed
Vl
O fis i fis fe dyfodd,
Yn anweledig bron;
A'i chanol oed gyrhaeddodd
Y Flwyddyn brydferth hon.
;
Vll
Yn awr mae'r Eneth fechan,
Orweddai yn ei chryd,
Yn ddynes gyflawn oedran
Gynefin gyda'r byd.
Vlll
Yn Awst ar fil o faesydd
Ei bryd ar gasglu roes;
Ar gyfer dyddiau cystudd
A llesgedd diwedd oes.
lX
Hi wisga'i phen a th'wysen,
O haidd a gwenith gwyn :
A bonet wellt bleth-felen
Yw'r ffasiwn y pryd hyn.
X
Yn Hydref ddail-anghladdol,
I'w chader wellt yr â;
Fel pob hen wreigan siriol,
I feddwl am yr hâ'.
Xl
Hi drefna 'i thy yn Nhachwedd,
A selia'r 'wyllys-rôl,
Gan adael ei holl gyfoeth
I'w chwaer sydd ar ei hôl.
Xll
Ond mae'r hen flwyddyn wedi myn'd
Yn oer a gwyw ei gwedd :
Hi gloddiodd fedd i lawer ffrynd
Mae hithau yn ei bedd !
No comments:
Post a Comment