DAFYDD AP GWILYM
Cywydd Mawl i Ifor Hael
Ifor, aur o faerwriaeth
Deg yw'r fau, diegr o faeth.
Dewraf wyd ac euraf gŵr
Dy ddilyn, dieiddilwr:
Myned o'm gwlad, dyfiad iôr,
Â'th glod, a dyfod, Ifor.
Myfi yw, ffraethlyw ffrwythlawn,
Maer dy dda, mawr yw dy ddawn.
Ys dewr, ystyriol ydwyd,
Ystôr ym, ys da ŵr wyd.
Telais yt wawd tafawd hoyw,
Telaist ym fragod duloyw.
Rhoist ym swllt, rhyw ystum serch,
Rhoddaf yt brifenw Rhydderch.
Cyfarf arf, eirf ni'th weheirdd,
Cyfaillt a mab aillt y beirdd,
Cadarn wawr, cedyrn wiwryw,
Caeth y glêr, cywaethog lyw.
Da wyd a syberw dy ach,
Duw a fedd, dau ufuddach
Wyd i'th fardd, pellgardd pwyllgall,
Llywiwr llu, no'r llaw i'r llall.
O'm iaith y rhylunieithir,
Air nid gwael, arnad y gwir.
O'm pen fy hun, pen cun cyrdd,
Y'th genmyl wyth ugeinmyrdd.
Hyd yr ymddaith dyn eithaf,
Hyd y try, hwyl hy, haul haf,
Hyd yr hëir y gwenith,
A hyd y gwlych hoywdo gwlith,
Hyd y sych gwynt, hynt hyntiaw,
A hyd y gwlych hoywdeg law,
Hyd y gwŷl golwg digust,
Hydr yw, a hyd y clyw clust,
Hyd y mae iaith Gymräeg,
A hyd y tyf hadau teg,
Hardd Ifor, hoywryw ddefod,
Hir dy gledd, hëir dy glod.
No comments:
Post a Comment