THE SONGS OF WALES (CANEUON CYMRU)
Eryri Wen
Eryri Wen, Frenhines bur,
Daearol Ferch y ne,
Mewn awyr las ac wyneb glir,
Ac yn a'y sanctaidd le.
Yn fab "y mynydd hwn" y'm gwaed,
I dy ofni er erioed;
Mae tân yn rhedeg trwy fy ngwaed,
Pam saf wyf wrth dy droed!
O'th gylch mae cestyll cedyrn mawr,
Yn myn'd friwsion mân.
Oth gylch mae twrdd tymhestloedd gawr,
Yn rhu o'u gauaf gân.
Ond dyma gastell gododd Duw,
Ag eira ar ei ben,
I Annibyniaeth Cymru fyw
Am byth, Eryri Wen.
No comments:
Post a Comment