DERYN Y BWN O'R BANNA
Deryn y Bwn o'r Banna
Aeth i rodio'r gwylia;
Lle disgynnodd o ar 'i ben,
Bwm, bwm, bwm, bwm,
Ond i bwn o fala.
Deryn y Bwn a gododd,
Y fala i gyd a gariodd
Dros y Banna i farchnad Caer,
Bwm, bwm, etc.,
Ac yno'n daer fe'u gwerthodd.
Fala, fala, filoedd,
Fala melyn laweroedd;
Y plant yn gweiddi am fala'n groch,
Bwm, bwm, etc.,
Rhoi dima goch am gannoedd.
Deryn y Bwn aeth adra
Yn ôl dros ben y Banna:
Gwaeddai, "Meistres, O gwelwch y pres,
Bwm,bwm, etc.,
A ges i wrth werthu fala."
No comments:
Post a Comment