Heblaw Cantref y Gwaelod, y mae y môr wedi ysbeilio Cymru o aml ddarn gwerthfawr arall o dir. Dywed traddodiad ddarfod i drychineb gyffelyb oddiweddyd y traeth tywodlyd a pheryglus hwnw sydd yn cyraedd o ymyl Biwmaris hyd y Penmaen Mawr, a elwir Traeth y Lafan, neu Traeth y Wylofain, yr hwn a berthynai i dywysog o'r enw Helyg ab Gwlanog. Cymerodd y dygwyddiad le tra y cynelid gwledd fawr yn mhalas Helyg.Pan oedd y cwmni yn ymloddesta, tarawyd y telynor, yr hwn oedd broffwyd hefyd, â dychryn wrth ganfod y trychineb yn dyfod o bell; ac un o'r gweision a ddygwyddai fod yn y seler ar y pryd, yn ceisio rhagor o ffrwyth y winwydden i borthi mwythau ei uwchgradd, a darawyd â dychryn, ac a redai ymaith fel un gwallgof, dan waeddi, "Y môr! y môr!" Y telynor a'r gwas hwn yn unig a lwyddasant i ddianc i ddiogelwch; y gweddill, yn nghyda'r eiddynt, a gollwyd yn yr elfen ddinystriol.
Dywedir hefyd fod darn mawr o dir wedi ei orlifo o du'r gogledd i dreflan Abergele; ac felprawf o hyny, dyfynir y beddargraff canlynol oddiar hen gareg fedd sydd yn mynwent y lle hwnw : -
" Yma mae'n gorwedd,
Yn mynwent Mihangel,
Gwr oedd a'i anedd
DAIR MILLTIR I'R GOGLEDD."
Ond yn bresenol y mae y môr o fewn tri chwarter milldir i'r dref.
No comments:
Post a Comment