Yn Llyfr Du Caerfyrddin, yr hwn a gasglwyd tua dechreu y 9fed ganrif, ceir tri dernyn o ffrwyth ei awen, sef, Can Foesol, Ymryson Gwyddno a Gwyn ab Nudd, a Chwynfan oherwydd Gorlifiad Cantre'r Gwaelod. Er mwyn cywreinrwydd, yr ydym yn cyfleu y dernyn olaf o'r rhai hyn yn ei hen wisg Gymreig:-
PAN DDAETH Y MOR TROS GANTREF Y GWAELAWD
Gwyddneu a'i Cant
Seithenin saw di allan ag edrych
Uirde varaures mor maes Gwitneu rhytoes
Boed emendiceit y morwin
A hellyngaut gwydi e wyn
Ffynnawn Wenystyr mor terrwyn
Boed emendigeit y vachdeith
Ai golligaut guydi gweith
Ffynnaun Wenystyr mor diffeith
Diaspad mererit yar van kaer
Hyd ar Duw i dodir
Gnawd gwedi traha tranc hir
Diaspad mererit y ar van kaer
Hetiu hyt ar Duv y dadoluch
Gnawd gwedi traha attregwch
Diaspad mererit am gorchwyt heno
Ac nim haut gorluyt
Gnawd gwedi traha tramcwyt
Diaspad mererit y ar gwineu
Kadir Kedaul Duw ae goreu
Gnawd gwedi gwedi gormod eisseu
Diaspad mererit am kymhell
Heno wrth vy ystavell
Gnawd gwedi traha tranc pell
Bet seithenin synwyr van
Rhwng Kaer Kenedir a glan
Mor, maurhydic a kinran
No comments:
Post a Comment