Mae D. Williams, Ysw. (Alaw Goch), Miskin, wedi rhoddi rhai miloedd o bunau, heblaw llafur di-ildio am lawer o flynyddoedd, i gefnogi llenyddiaeth Gymreig, ac i ddyrchafu teimlad a chwaeth genedlaethol y Cymry. Pan roddwyd tlws aur iddo gan ei gydwladwyr yn 1861, darllennwyd y penillion canlynol :-
GAIR MEWN CEFN
l
O flaen dy wyneb gonest di,
Canmoliaeth nid yw weddus :
Ond ar dy gefn di, dyna'r fan,
Mae mawl yn anrhydeddus.
Am garu iaith ac enw'th fam,
Am garu'r hen fynyddau,
Dyna'r achos - dyna'r p'am
Y cara Cymru dithau.
ll
Ti weli dlws, fe ddichon fod,
Ei well a'i odidocach;
Ond ar dy gefn di, gyfaill hoff,
Mae tysteb werthfawrocach,
Am garu iaith, &c.
lll
Ti elli edrych ar y tlws,
Sydd ar dy fron yn felyn:
Ond ar dy gefn di, yno'n gudd
Y mae y gwir fathodyn.
Am garu iaith, &c.
lV
Er mwyn dy wlad ail beth i ti,
Oedd bri a budr elw:
Bydd fyw yn hir a bydded mwy,
O Gymry ar dy ddelw,
Am garu iaith, &c.
V
Un o'th gyfeillion cefn wyf fi,
Ond dyma'r pill gorphenol:
Mae dwylaw Cymru am dy wddf,
Yn rhoddi'r tlws presenol.
Am garu iaith ac enw'th fam,
Am garu'r hen fynyddau:
Dyna'r achos - dyna'r p'am
Y cara Cymru dithau.
No comments:
Post a Comment