MYFANWY [words by Richard Davies (Mynyddog Mwynfawr), music by Joseph Parry]
Paham mae dicter, O Myfanwy,
Yn llenwi'th lygaid duon du?
A'th ruddiau tirion, O Myfanwy,
Heb wrido wrth fy ngweled i?
Pa le mae'r wên oedd ar dy wefus
Fu'n cynnau 'nghariad ffyddlon ffôl?
Pa le mae sain dy eiriau melys,
Fu'n denu 'nghalon ar dy ôl?
Pa beth a wneuthum, O Myfanwy
I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd?
Ai chwarae oeddit, O Myfanwy
A thanau euraidd serch dy fardd?
Wyt eiddo I'm drwy gywir amod
Ai gormod cadwth air I mi?
Ni cheisiaf fyth mo'th law, Myfanwy,
Heb gael dy galon gyda hi.
Myfanwy boed yr holl o'th fywyd
Dan heulwen disglair canol dydd.
A boed i rosyn gwridog iechyd
I ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd.
Anghofia'r oll o'th addewidion
A wnest i rywun, 'ngeneth ddel,
A dyro'th law, Myfanwy dirion
I ddim ond dweud y gair "Ffarwel."
No comments:
Post a Comment