Cant o Ganeuon
PENILLION Y MISOEDD, 1860
IONAWR
Oherwydd nad yw Cymru yn credu meibion Baal,
Mae d'rogan am y tywydd, yn awr yn fusnes sâl.
Oherwydd y seryddon sydd yn y swyddfa hon,
Mae holl ddewiniaid Cymru, ar haner glemio bron.
Goleua haul gwybodaeth, mae'r awyr yn rhy glir,
I deulu swyngyfaredd anadlu yn ein tir.
Mae brutwyr "gwlaw yma a thraw"
Mewn goleu 'n cael eu cau :
A blwydd 'r ol blwydd yn claddu
Ein holl broffwydi gau.
CHWEFROR
Oer neu gynes, sych neu wlyb,
Rhew, eira, gwlaw, neu genlli,
Fydd mis Chwefror ynol tyb,
Seryddon Ynys Enlli
RHAG OFN YR ANGHOFIWCH
Talwch y post y pedwerydd ar ddeg,
Rhag rhoi cost, i'r ystlen deg.
MAWRTH
Daw Mawrth i mewn ond mae ein dawn
Yn methu penderfynu yn iawn:
Pa un ai echrys Lew di fraw
Ai gwirion Oen fydd ef pan ddaw:
Os bydd o'n Oen a Llew ynghyd
Then look out for - diwedd y byd.
EBRILL
Os gwyn fydd yr haul, os glâs fydd y nen,
Os na bydd un cwmwl yn hongian uwchben-
O cofiwch mai Ebrill yw 'n awr.
Os elwch o'r ty, rhybuddio 'r y'm ni,
Fod cawod bur wleb,
Heb ofyn i neb,
Yn sicr o ddisgyn i lawr.
MAI
Wel dyma Fai - wel Mai 'r wyt ti,
Yn dod a blodau fyrdd i ni.
Fe dododd rhew, ac yn eira gwyn,
Ar waun a rhos, ar gwm a glyn:
Mae glaswellt llynedd oll yn wyw,
Ond ynot ti, ail-ddont yn fyw.
Aeth holl brydferthwrch byd i drai,
Ond O! mae'r llanw'n dod yn Mai.
MEHEFIN
Mae pawb yn gynefin,
Ag hinsawdd Mehefin;
A mil a'i cymerant yn chwys.
Ond cynghor rôf yma
I'r "llwm ar cefn llyma' "
Tyn allan yn llewys dy grys.
Ac os bydd yr haul,
Yn boeth am y tro
Paid byth a thyngu,
"Yn boeth y bo."
GORPHENAF
MIs poethach fyth na 'r mis o'r blaen,
Gwae brasder eich hasenau :
Pregetha 'r gwres yn ddigon plaen,
"Gwyn fyd y bobol denau."
NID I WEISION FFERMWYR
Wrth olchi defaid, nid di les,
Yw scrwb go dda i groen sydd nes.
AWST
Yn ystod Awst fel gwyddoch chwi,
Mae "Dyddiau 'r Cwn" yn darfod;
Er hyny gwelir llawer cî,
Mewn sasiwn a chyfarfod.
Yn hoew sionc ac iach
Mae hyn yn ffaith,
Sy'n rhoddi gwaith,
I synu tipyn bach.
MEDI
Peth rhyfedd ond peth gwir,
Fod Twm wrth wneyd basgedi,
A Dic wrth ganu baledi,
Mor siwr o ddod i Fedi
A'r dyn sy'n hau ei dir.
Sut bynag hauir llafur,
Ei egin welant ddydd:
Ond braenu byth wna'r segur
A llygru 'r fan lle bydd.
HYDREF
Mae dail y coed y dyddiau hyn,
Yn dechreu cwympo i lawr;
Ac ar y bryniau llwydrew gwyn,
Gusana draed y wawr,
Prysura ddwyn dy yd dan do,
Mae gauaf eto'n dod - ac O!
Hen dymhor anwyl ydyw fo.
TACHWEDD
Daeth Tachwedd o'r diwedd, yr olaf ond un,
O'r misoedd a dreuliaist, yn ddigon di lun:
Mae iâ yn yr awel, ac ias yn y tarth,
Rhaid gadael y meinciau yng nghanol y barth.
Tyn ymaith dy 'sgidiau os nad ydynt lân,
A thyred i'r aelwyd at ochor y tân:
Ac os yw'th 'sguboriau yn llawnion o yd,
Tydi yw'r dedwyddaf bobol y byd.
RHAGFYR
(Croesgyniad)
Rhaid dwyn ein pennillion i'r misoedd i ben,
Ac ail feddwl eto, am droi dalen wen.
Gwaith câs ydyw edrych i'r misoedd a fu,
Fe'u cawsom yn wynion, fe'u gwnaethom yn ddu.
Yn nhrothwy'r flwydd nesaf, os oes un a ddaw,
Ry'm am gael ymddyddan ac ail ysgwyd llaw.
No comments:
Post a Comment