CANT O GANEUON
Y FLWYDDYN 1862
IONAWR
Mis oer yw hwn i'r trwyn a'r traed,
A'r dwylaw sydd heb fenyg;
Os hoffech ei gynesu ef
O rhowch i'r tlawd galenig.
CHWEFROR
Afreidiol dweyd i'r ystlen deg,
A'r llanciau sydd yn caru:
Fod y pedwerydddydd ar ddeg
Yn ddydd i'r adar baru.
MAWRTH
Y diwrnod cyntaf yn y mis,
Yw gwyl ein hoff Geninen:
Ac yna'n chwat, daw diwrnod Pat,
I wisgo'r werdd Feillionen.
EBRILL
Y cyntaf eto o'r mis hwn,
Yw diwrnod yr ynfydion;
Gan fod y Sais mor dlawd o wyl
Fe roddwn hon i'r Saeson.
MAI
Mae botwm coch a llygad dydd,
Yn tyfu ger ein dorau:
A Robin Goch ar 'deryn tô,
Brydyddant am y goreu.
MEHEFIN
Mae'r coed yn awr yn llawn o ddail,
A'r ddaear megis Eden :
A'r holl lysieuog yn fyd yn troi,
Ei wyneb at yr heulwen.
GORPHENAF
Mae hwn yn boeth fel odyn galch
Yn cochi'r byd mewn crasder :
Os wyt yn denau bydd yn falch,
Ond gwae a fagodd frasder.
AWST
Y mae amaethwyr Cymru wen,
Yn edrych ar eu cnydau :
Os ânt i'r capel ar y Sul
Mae'r galon efo'r ydau.
MEDI
Mis Medi ddaeth, a medi mawr,
A welir hwyr a boreu :
A'r amaethyddwr gwyna'n awr,
Am fwy o ysguboriau.
HYDREF
Anadla'r Hydref ar y byd,
A'r ddeilen werdd dry'n felen :
Ac O ! mae ambell gyfaill gwan,
Yn cwympo efo'r ddeilen.
TACHWEDD
Mae gwynt y gauaf yn rhoi bloedd,
I alw eifyddinoedd :
A breichiau'r dderwen eto'n noeth
I ymladd a'r tymestloedd.
RHAGFYR
O dydd i ddydd, o nos i nos
Daeth Rhagfyr ar ein gwarthaf :
A dolen ydyw ef sy'n dal
Dolenau'r Flwyddyn nesaf.
No comments:
Post a Comment