PRIODI A CHLADDU YN YR HEN AMSER
GAN Y GWAHODDWR
"Dydd da I chwi, bobl, o'r hynaf i'r baban,
Mae Stephan wahoddwr à chwi am ymddyddan,
Gyfeillion da mwynaidd, os felly'ch dymuniad,
Cewch genyf fy neges yn gynhes ar ganiad.
Y mae rhyw greadur trwy byd yn grwygredig,
Nis gwn i yn hollol ai glanwedd ai hyllig
Ag sydd i laweroedd yn gwneuthur doliriad
Ar bawb yn goncwerwr, a'i enw yw cariad.
Yr ifanc yn awchus wna daro fynycha',
A'i saeth trwy ei asen mewn modd truenusa';
Ond weithiau à'i fwa fe ddwg yn o fuan
O dan ei lywodraeth y rhai canol oedran.
Weithiau mae'n taro yn lled annaturiol,
Nes byddant yn babwyr yn wir yr hen bobl,
Mi glywais am rywun yn gas yn aflawen
Y bendro'n ei wegil yn ol pedwar ugain.
A thyma'r creadur trwy'r byd wrth garwyro
A d'rawodd y ddieu-ddyn wyf trostynt yn teithio,
I hel eich cynorthwy a'ch nodded i'w nerthu,
Yn ol a gewch chwithau pan ddel hwn i'ch brathu.
Yr wyf yn atolwg ar bob un o'r teulu
I gofio y neges wyf wedi fynegu,
Rhag i'r gwr ifanc a'i wraig y pryd hyny,
Os na c'han' hwy ddigon, ddweyd mai fi fu'n diogi.
Chwi gewch yno roeso, 'rwy'n gwybod o'r hawsaf,
A bara chaws ddigon, onidè mi a ddigiaf,
Ceiff pawb ei ewyllys, dybacco, a phibelli,
A diod hoff ryfedd 'rwyf wedi ei phrofi.
No comments:
Post a Comment