Bun's Miscellaneous

Bun's Miscellaneous
The third of my sites. My first site is personal, the second about the pub, this site is for anything that takes my fancy..

My Music

http://www.last.fm/user/BynTyElise/library

Tuesday 23 May 2017

HANESION, &c., CYMREIG
Iarll Richmond a'r Brudiwr

Dafydd Llwyd o Fathafarn, plwyf Llanfair Cyfeiliog, ac yn meddu etifeddiaeth ar lanau y Dyfi, a gafodd yr anrhydedd o ymweliad gan Iarll Richmond, ar gyfrif ei enwogrwydd fel Brudiwr. Yr oedd yr Iarll ar ei ffordd o Aberdaugleddyf i'r Amwythig i ornestu a'r brenin Rhisiart lll, am goron Lloegr, pan y tybiodd yn werth ei drafferth droi i ymofyn â Dafydd a fyddai ei ymgais yn llwyddianus ai peidio. Wedi i'w uchelder hysbysu ei neges, petrusai y Brudiwr roddi ateb iddo, a chynygiodd ohirio hyny hyd foreu trannoetn. Pan ddeallodd gwraig Dafydd Llwyd fod ei harglwydd yn petruso ateb cwestiwn syml gwr o urddas iarll, hi a dechreuodd ei geryddu :- "Beth! tydi yn fardd, yn broffwyd, yn weledydd, ac yn methu rhoddi ateb i ofyniad fel yna! Dywed yn bendant wrtho y bydd iddo enill y frwydr; ac os try hyny allan yn wirionedd, dyna dy enw yn uchel ac urddasol; ac os aflwyddianus fydd, ni raid i ti byth ofni y dychwel efe y ffordd yma i't gondemnio fel gau-broffwyd." Boddlonodd hyn y Brudiwr yn fawr; ac wedi i'r iarll gael ar ddeall ei dynged, aeth i'w ffordd yn llawen. Ni raid hysbysebu y gwybodus ddarfod i broffwydoliaeth gyfrwysgall Dafydd gael ei chyflawni i'r llythyren - syrthiodd yr ymhongar a'r creulon Rhisiart yn y frwydr; a hyny, medd traddodiad, trwy ddwylaw ein cydwladwr dewrwych Rhys ab Tomos; a Iarll Richmond, yr hwn oedd wyr i Owen Tudur o Benmynydd, Mon, A wisgodd goron Lloegr yn ei le ef, a alwyd wrth y teitl Harri Vll.

No comments:

Post a Comment

Annie Ebrel & Nolwen le Buhe

Latest Football Matches

Welsh sports

Merthyr's Finest: The Film

Howard Winstone

http://www.boxing.com/howard_winstone_idol_of_merthyr.html

Jean-Claude Dreyfus, and Merzhin au bar Ty Elise

Amazon

Katelsong

Our World; We are responsible for our children and our childrens' children

Music in Breizh/Bretagne

The Three Tenors

The Thistle & Shamrock; Welsh Roots

Too much Love can Kill You

Natalie, my favourite actress by far

Tribute to Natalie Wood

Elvis - Treat Me Nice

Elvis & Marilyn

Mahalia's Tribute to Elvis

Mahalia Jackson

Brigitte

Marilyn v. Brigitte

Pelé v. Maradonna

John Charles

John Charles

Denis Law

George Best

25 of the Best

Real Madrid

Barbarians v. All Blacks 1973 - That Try

Try of the Century?

French Rugby Tries

Inspirational Moments

Clips

Funniest Commercials

Evene

Followers

Blog Archive