AR HYD Y NOS
Holl amrantau'r sêr ddywedant, ar hyd y nos;
Dyma'r ffordd i fro gogoniant, ar hyd y nos.
Golau arall yw tywyllwch i arddangos gwir brydferthwch
Teulu'r nefoedd mewn tawelwch ar hyd y nos.
O mor siriol gwena seren ar hyd y nos,
I oleuo'i chwaer ddaearen ar hyd y nos.
Nos yw henaint pan ddaw cystudd, ond i harddu dyn a'i hwyrddydd
Rhown ein golau gwan i'n gilydd ar hyd y nos.
No comments:
Post a Comment