Dafydd ap Gwilym
Moliant Llywelyn ap Gwilym
Llyfr dwned Dyfed, dyfyn—ar windai
I randir Llywelyn;
Llannerch, aed annerch pob dyn,
Lle twymlys llu, at Emlyn.
Llyn i barc Emlyn, camlas—hyd Deifi,
A'r tefyrn ymhob plas,
Lluddied gardd, lladded ei gas,
Lle bo'r orddod, llwybr urddas.
Llwybr urddas, bar bras yn bwrw bryn,—eglur
Oglais Lloegr a Phrydyn,
Lle dêl yr holl fyd a dynn,
Llaw hael, ac enw Llywelyn.
Llywelyn a'u myn ym ynni—a grym,
Llawenfab Gwilym, erddrym wrddri,
Llai ymadrawdd cawdd i'n coddi—no chaeth,
Llywodraeth a wnaeth a maeth i mi.
Llafuriawdd, berthawdd i borthi—digeirdd,
Llys ym mryn y beirdd, lle heirdd yw hi,
Lle gnawd cael gwasgawd a gwisgi—ddillad,
Llety anghaead, wastad westi.
Lle cynefin gwin a gweini—heilgyrn,
Lle chwyrn, llwybr tefyrn, lle beirw Teifi.
Lle dichwerw, aserw, o erysi—bryd,
Lle chwery esbyd byd heb oedi.
Lle maith yn llawnwaith llenwi—buelin,
Lle mae ufuddwin llym i feddwi.
Lle o'th nerth, Dduw ferth, ydd af fi—drachefn,
Lle anarlloestrefn, llanw aur llestri.
Llys eurwr, a'i gwnaeth llu seiri—yn falch,
Lliwgaer yn lasgalch, llugyrn losgi.
Llawnaf, dianaf, daioni—mynud,
Lluniaeth ffraeth, ffrwythdud, glud glodfori.
Llwybreiddwlad, gariad Gwri—Wallt Euryn,
Llywelyn drawstyn a â drosti.
Llywiawdr, ymerawdr meiri—Edelffled,
Llyw yw ar Ddyfed, llawer ddofi.
Llorf llwyth, ei dylwyth hyd Wyli—y traidd,
Llariaidd, brawdwriaidd, ail Bryderi.
Llathrlaw ysb euraw, ysberi—gwëyll,
Llid Pyll, arf dridryll, arfod Rodri.
Llinongadr, baladr Beli—yng nghyngaws,
Llwyrnaws Llŷr hoywdraws, llew wrhydri.
Llawen grair, a'n pair yn peri—llwyddfoes,
Llawenydd a roes am oes i mi.
Llywelyn derwyn i dorri—aergad,
Llawfad aur-rhuddiad a ŵyr rhoddi.
Llwydda, na threia, Un a Thri—rhag llaw,
Llwyddaw dawn iddaw, Duw i'w noddi.
No comments:
Post a Comment