AR HYD Y NOS
Holl Amrantau'r sêr ddywedant,
Ar hyd y nos,
"Dyma'r ffordd I fro gogoniant,"
Ar hyd y nos.
Goleu arall yw tywyllwch,
I arddangos gwir brydferwch,
Teulu'r nefoedd mewn tawelwch,
Ar hyd y nos.
O mor siriol gwena seren,
Ar hyd y nos,
I oleuo'i chwaer ddaearen,
Ar hyd y nos.
Nos yw henaint pan ddaw cystudd,
ond i harddu dyn a'i hwyrdydd,
Rho'wn ein goleu gwan i'n gilydd,
Ar hyd y nos.
No comments:
Post a Comment