GWEITHIAU CEIRIOG
Oriau'r Hwyr
Y Gareg Wen
Os pell yw telyn aur fy Ngwlad
O'm dwylaw musgrell i;
Os unig wyf o dy fy nhad,
Lle gynt chwareuid hi:
Mae'r iaith er hyny gyda swyn,
Fel ysbrydoliaeth yn fy nwyn,
I ganu cerdd, os nad yn fwyn
I'r byd - mae'n fwyn i mi.
Mae nant yn rhedeg ar ei hynt
I ardd fy nghartref fi,
Lle cododd un o'm teidiau gynt
Ddisgynfa iddi hi.
Mae helyg melyn uwch y fàn,
Lle syrthia tros y dibyn bàn,
A choed afalau ar y làn,
Yn edrych ar y lli.
O dan ddisgynfa'r dwr mae llyn,
A throsto bont o bren;
A chareg fawr, fel marmor gwyn,
Gynalia'r bont uwch ben.
Fy mebyd dreuliais uwch y lli,
Yn eistedd yno arni hi;
A mwy na brenin oeddwn i,
Pan ar fy Nghareg Wen !
Pan ddeuai'r Gwanwyn têg ei bryd
Ar ol tymhestlog hin,
Ac adfywhau'r llysieuog fyd
Yn ei gawodydd gwin:
Yn afon fawr âi'r gornant fach;
Pysgotyn ar ei glenydd iach -
A phin blygedig oedd fy màch
Yn grog wrth edau lîn.
Ni waeth pa ran o'r eang fyd
A grwydraf tra b'wyf byw,
Wyf wrth y Gareg Wen o hyd,
A'r nant sydd yn fy nghlyw;
A phan hysbyswyf estron ddyn,
Mai ati 'hedaf yn fy hûn,
Maddeua 'm ffoledd am mai un
O gofion mebyd yw.
Ffurfafen bell yw mebyd oes,
Serenog fel y nen ;
Ac yn mysg dynion neb nid oes,
Na hoffa godi ei ben;
I edrych draw i'r amser fu -
A syllaf finau gyda'r llu -
Ac O ! fy seren fore gu
Wyt ti, fy Nghareg Wen !
O cyrraedd ail fabandod wnaf,
Cyn gollwng arna'r llen;
Os gauaf einioes byth a gaf,
A'i eira i wynu'm pen -
Bydd angau imi'n "frenin braw,"
Nes caffwyf fyn'd i Walia draw,
At dy fy nhad, I ro'i fy llaw
Ar ben y Gareg wen.
Byth, byth, ni ddygir o fy ngho'
Gyfeillion mud yr ardd;
Nis clywir trystfawr swn y gro
Ar gauad arch y bardd:
A dagrau pur tros ruddiau'r nen
Fo'r oll o'r dagrau uwch fy mhen -
Os cyfaill fydd, gwnaed garnedd wen
O geryg gwynion hardd.
Colofnau wnaed i feibion bri,
Uchelfawr tua'r nen;
Ond noder fy ninodedd i
Gan garnedduwch fy mhen:
'Rol gado ' gwlad y cystudd mawr,
Os byw fy enw haner awr,
Na alwed neb fi ar y llawr
Ond bardd y Gareg Wen.
No comments:
Post a Comment