HEN GAROL HAF
Mab wy'n chwennych yn fy chwen
I ganu pennill mwyn o'm pen;
Ac os cerwch chwi hawddgarwch,
Byth na syniwch roi i mi sen.
Nôl fy neall canu wnaf
Glyd eiriau'n rhwydd o glod i'r Haf,
Wrth ei weled mor hawddgarol
Ei liw ar led, bro euraidd braf.
Dolydd a gweirglodd-dir clau,
Eu gweld yn rhwydd a gaiff pob rhai,
Tan fargodion glennydd gloywon
Mor hyfrydlon meillion Mai.
Llysiau llafur, graendir, grawn,
Ffrwyth ar goedydd bronwydd brawn,
Rhos a lili, lanwych lwyni
A fyddant felly'n llenwi'n llawn.
Bydd yr adar yn y gwydd
Gydag agor tor y dydd
Yn ei roeso gan ymbyncio,
Ceir eu gweld wrth rodio'n rhydd.
Fe ddawr gog a'r ceiliog du,
Y fronfraith gron, a'i chywion cu,
A Philomela i'r fro hyfryda',
A'u llais llawena', llonna' llu.
No comments:
Post a Comment