THE SONGS OF WALES (CANEUON CYMRU),
Toriad y Dydd
Mae Llawer un yn cofio,
Yr eneth fechan ddall;
Ni welodd neb un fach mor fwyn,
Mor brydferth ac mor gall.
Hi gerddodd am flynyddau,
I ysgol Dewi Sant
Ar hyd y ffordd, o gam i gam,
Yn nwylaw rhai o'r plant.
'R oedd gofal pawb amdani,
A phawb yn hoffi'r gwaith,
O helpu'r eneth fach ymlaen,
Trwy holl drofeydd y daith.
Siaradai'r plantam gaeau,
A llwybrau ger y lli,
Ac am y blodau tan eu traed,
Ond plentyn dall oedd hi.
Hi glywai felus fiwsig
Yr adar yn y dail;
Hi deimlai ar ei gwyneb bach,
Belydrau serch yr haul;
Aroglai flodau'r ddaear:
Ond nis adwaenai'r fûn,
Mo wên yr haul a mwy na'r oll,
Mo wên ei mam ei hun.
Mae'r plentyn wedi marw,
Ar wely angeu prudd,-
Hi wênodd ar ei mam,
gan addweyd "Mi welaf doriad dydd!"
Ehedodd mewn goleuni,
Oddiwrth ei phoen a'i phall;
A gweled golygfeydd y nef,
Y mae yr Eneth Ddall!
No comments:
Post a Comment