Bun's Miscellaneous

Bun's Miscellaneous
The third of my sites. My first site is personal, the second about the pub, this site is for anything that takes my fancy..

My Music

http://www.last.fm/user/BynTyElise/library

Wednesday 31 May 2017



DAFYDD AP GWILYM

Dyfed a siomed, symud—ei mawrair,
      Am eryr bro yr hud;
   Doe wiwdymp yn dywedud,

Cyn hyn, Lywelyn, olud—tiriogaeth,
      Tŷ rhagof nis caeud;
   Agwrdd udd y gerdd oeddud,

Pryd glwys, prudd dadwys prif dud,—praff awdur
      Proffwydair, balchsyth, drud,
   Prif dda wawd, prawf ddywedud,

Fy ngheinllyw difyw, Deifr helgud,—baham,
      Bwhwman deigr neud glud,
   Fy nghanllaw y'm gadawud,

Gwawr gwir nef a llawr, llef alltud—oedd hon,
      Hyn oedd ddygn nas clywud;
   Gwae fi, Geli pob golud,

Pendefig, gwledig gwlad hud—is dwfn,
      Ys difai y'm dysgud.
   Pob meistrolrwydd a wyddud,

Neud dwfn dy alar, neud difud—fy llef
      Am fy llyw cadarnddrud,
   Nid diboen na'm atebud,

Gwae fi fod, elw clod, ail Clud—nyw ballodd,
      Heb allel dywedud,
   Gwn ofal tost gan ofud,

Gwae fi, Grist Celi, caled—o'm rhyfig
      A rhyfedd y'm cosbed,
   Gwymp oeddem oll cyn colled,

Gwae fi, Grist Celi, calon doll—yw'r fau,
      Wyf fyfyr am ddygngoll,
   Campus eirf, cwmpas arfoll,

Gwae fyfi fy Rhi, rhoi i'th ddarpar—Duw,
      Dwyn cadarnwalch cerddgar,
   Nid rhodd gŵyl, neud rhudd galar,

Gwae fi ddwyn, ail brwyn, breiniawl gyhoedd—llu,
      Llywodraeth y bobloedd;
   Lleas taerfalch, lles torfoedd,

Gwae fi weled, trwydded drwg,
Neuaddau milwr, tŵr teg,
Annawn oes, un yn ysig,

Gwae'r nai a oerai, a ery—gweled,
      Gwaelawd cof a'm deffry,
   Y llys fraith yn llaesu fry,

Llys gwin ac emys, ddigamoedd—gyllid,
      Och golli a'i gwnaddoedd,
   Llys naf aur, lles niferoedd,

Os marw fy ewythr, ys mawr—o ryfedd,
      Aur Afia Cymru i lawr,
   Nad eddwyf, nai a'i diddawr,

Gŵr oedd Lywelyn, gwir ganu—prudd,
      Cyn rhoi pridd i'w ddeutu,
   Pwynt rhyfel heb ymgelu,

Gŵr, nid gwas, a las o loes archoll—dur,
      A diriaid fu'r dygngoll,
   Gwrawl hawl mewn helm drwydoll,

Pwnc truan oerwan am eurwas—yw hyn,
      Honni mawr alanas,
   Cain arddelw cyfan urddas,

Dihareb yw hon, dywirir—ym mro,
      A laddo a leddir.
   Diben fo, hwn a dybir,

Llithr ddagrau bid mau, modd chweg,—och allell
      A chyllell faelereg,
   Llawer och dost ar osteg,

Nid diofal, ffyrfdal ffêr,
Y gelyn a wnêl galar;
A laddo dyn â'i loywddur,

Heilbryn flodeuyn diwyd—a dderyw,
      Ddeurudd diymoglyd;
   Llwyr ydd aeth, gwingaeth gyngyd,

      A gaiff dial cuall;
   A wnêl drwg o dreigl anghall

Dall fydd byd, dull gwŷd gwedy,—ddwyn llygad
      Oedd yn Lloegr a Chymru.
   Dwg i'th wledd, ni'm gomeddy,

Cyfiawnder fu ef, cyfundeb—cyrdd aur,
      Cerddwriaeth ddoethineb;
   Cyweirdant pob cywirdeb,

Lles bychan buan yw bod—yn rhullfalch,
      A'r hollfyd fel ffurf rhod;
   Llew syberw lliaws wybod,

Llew olwg farchog, Llywelyn,—o'th las
      I'th lys deg yn Emlyn,
   Llai yw'r dysg, medd llawer dyn,

Och ddwyn Llywelyn, och ddoeth,—a ddodaf,
      Och a ddyd ei gyfoeth,
   Och rydd a roddaf drannoeth,

Och, och, y Ddôl Goch, ddaly gŵyl—barchus
      Am dy berchen annwyl;
   Och wedy'r ddwyoch ddiwyl,

Wylais lle gwelais lle gwely—f'arglwydd,
      Band oedd fawrglod hynny?
   Gair ateb, wyf gâr yty,

Gwaelfyrn gwawl tefyrn, gweli tafawd,—gwaith
      Gwaeth bellach myfyrdawd;
   Gwaeg cedyrn, gwag yw ceudawd,

Salw a thost am iôr costrith,
Selerwin fyrdd-drin feirdd-dreth,
Campus reddf cwmpas roddfath,

Coeth edling, fflowr dling dy lis—oreuraid,
      Wared clochdy Paris;
   Cymro glew a'n gadewis,

Truan ac eirian, pawb a garo—dadl,
      Aed Landudoch heno;
   Doethineb neud aeth yno,
   Diwyd grair dan dywod gro.

No comments:

Post a Comment

Annie Ebrel & Nolwen le Buhe

Latest Football Matches

Welsh sports

Merthyr's Finest: The Film

Howard Winstone

http://www.boxing.com/howard_winstone_idol_of_merthyr.html

Jean-Claude Dreyfus, and Merzhin au bar Ty Elise

Amazon

Katelsong

Our World; We are responsible for our children and our childrens' children

Music in Breizh/Bretagne

The Three Tenors

The Thistle & Shamrock; Welsh Roots

Too much Love can Kill You

Natalie, my favourite actress by far

Tribute to Natalie Wood

Elvis - Treat Me Nice

Elvis & Marilyn

Mahalia's Tribute to Elvis

Mahalia Jackson

Brigitte

Marilyn v. Brigitte

Pelé v. Maradonna

John Charles

John Charles

Denis Law

George Best

25 of the Best

Real Madrid

Barbarians v. All Blacks 1973 - That Try

Try of the Century?

French Rugby Tries

Inspirational Moments

Clips

Funniest Commercials

Evene

Followers

Blog Archive