GWILYM HIRAETHOG
Y mae un o feirdd dodidocaf yr oes hon wedi rhoddi y geiriau canlynol yn ngenau Gwyddno Garanhir, a diameu eu bod cystal dysgrifiad o adfyd y tywysog ar y pryd a'r geiriau blaenorol o'i gyfansoddiad ef ei hunan:-
"O, ddylif! O, ddialedd!
Mae'n flin bod ar fin dy fedd.
Tywod sy'n llenwi'n teiau,
A'r pysg yn gymysg sy'n gwau;
Morfeirch dihefeirch, hyfion,
Llymriaid, arw haid, 'r awron
Sy'n heigiau'n amlhau y'mlith
Y gweunydd fu'n dwyn gwenith;
Lle porai defaid dofion,
Yn y lle pranciai wyn llon
Cynulla morgwn hyllion
A môr-gathod - syndod son!
E geir lle bu yd a gwin
Fawr grugiau o fôr gregin.
Hoff lysoedd a phalasau,
Gan nerth y môr certh, mawr, cau,
Eu cydiawl furiau cedyrn
DDattodid, chwelid yn chwyrn:
Ni ddorid eu gwedd eirioes,
Tan eu traed tonau a'u troes;
A'u holl stôr, y môr mawrwanc,
A fwria'i wyllt fâr ei wanc.
O! fy ngwlad, rhaid im' d'adu
Dan y dwr a'i donau du.
Llwybrau rodiwn, garwn gynt,
I'm mawr dristwch, môr drostynt
A lifeiria lafoerion
Oerion dig ei erwyn don.
O! hen eigion creulon, cred,
Y gelyn calon galed -
Ni bu un a'i raib yn bod
Debyg mor ddigydwybod
A thydi, weilgi mawr wanc,
Didoraeth yw dy daerwanc;
Llyncu'r byd i gyd ar gais
Idy fol mewn du falais
Wnait unwaith, ar hynt anwar,
Hyn ni fu ddigon o fâr -
Llyncu mâd wlad fy nhadau
Wnait i'th grombil, gawrfil gau;
Daw arnat dâl diwyrni, -
Dial tân - y fo dâl i ti!"
+
No comments:
Post a Comment