RHYDWEN WILLIAMS.
Cymru.
Bydd rhai yn stwnsian am ein tipyn tir fel stad,
Y Gogledd a'r Gorllewin, Dwyrain, De;
A hwylus iawn, mae'n siwr, ysgleisio'r wlad
Ar weinyddiadol blât yn barth a thre'
Bydd eraill yn sisyrnu tir a thir
Fel pe na bâ'i Morgannwg yn 'r un byd â Môn,
A'n deunydd cynganeddol o sir i sir,
Meddent, yn bur wahanol yn y bôn.
Diau mai od i lendid swil Ro-wen
Fai mwg simneiau Merthyr, fel i'r Fron
Y trwst o'r Trostre, neu syrffed sinc a phren
Min Tâf ar lannau Teifi neu ger Moel-y-don.
Diau. Ond dwed - o Lacharn draw i Lyn -
Rhyw hud a wybu'r beirdd fod hon yn un.
No comments:
Post a Comment