CANU'R WYF GAN CHWARE'R CRWTH
l
Canu'r wyf gan chware'r crwth,
I'r ffynon fach sydd ger fy mwth,
Mysg glaswellt, brwyn, a dail:
A gwylio'r dafnau'n d'od yn mlaen
Tros ymyl y mwsoglyd faen,
I chware yn yr haul:
Er fod helyg ar bob ty,
Ro'f fi mo'm crwth i hongian fry,
Tra rhedo dwr yn bur ac iach
O fin fy ffynon fach.
ll
Llifwch allan, ddyfroedd byw,
I gadw lili'r dwr yn fyw,
A'i blodau 'n wyn o hyd:
A chenych chwi, O ! ddafnau byw,
Dysgleiried cwpan dynolryw,
Yn mhedwar ban y byd.
Ddirwest anwyl, tyf i fri,
Hardd lili wen y dwr wyt ti.
A cher pob bwth yn Nghymru wen,
O ! cyfod di dy ben.
No comments:
Post a Comment