GLYNDWR A'I FARDD
Pan ddihenyddwyd Dafydd ab Gruffydd yn yr Amwythig, cymerth y cigydd ei galon ac a'i taflodd i'r tan, a neidiodd y galon o'r tân ac a darawodd y cigydd yn ei lygad, ac a dynodd ei lygad ymaith.
Hari lV., brenin Lloegr a ysgrifenodd at Arglwydd Grey o Ruthin, yn erchi iddo ef trwy ryw ystryw fradychu Owain Glyndwr. Yna gyrodd Arglwydd Grey at Owain i'w hysbysu y byddai yn ciniawa gydag ef y dydd a'r dydd. Atebodd Owain y byddai roesaw iddo, oni ddygai gydag ef uwchlaw dengwr ar ugain. Daeth yr arglwydd yn yr amser penodedig, ac ychydig o gydymdeithion gydag ef; a gallu mawr arfog yn dyfod yn ddirgel ar ei ol. Pan ddaeth amser ciniawa, gosododd Owain osgordd ar ben bryn i wylio tra y byddai ef ar giniaw. Pan oedd Owain ar ganol giniaw, yr osgordd a welent lonaid y ddôl o wyr arfog, a dywedasant wrth Iolo Goch, bardd Owain, er mwyn iddo ef fyned a rhybuddio eu harglwydd o'i berygl. Aeth Iolo i mewn ar frys i'r palas, a chanodd ar ddameg yr engl yn rhybudd yma ar osteg, rhag i Grey dybied fod twyll ynddo; canys er ei fod yn deall traethawd Cymreig, nid oedd efe yn deall ein mydr ni:-
"Coffa ben, a llen, a llywenig -
A lâs nos Nadolig
Coffa golwyth Amwythig,
O'r tân a fwriodd naid dig."
Deallodd Owain y ddameg, a ddefnyddiodd ei draed i achub ei ben.
No comments:
Post a Comment