Dyhuddiant Elphin
Taliesin a'i Cant
Elphin deg, taw â'th wylo -
Na chabled neb yr eiddo -
Ni wna les it' ddrwg obeithio -
Nid à wyl dyn a'i portho -
Ni bydd coeg gweddi Cynllo -
Ni thyr a'r addawo -
Ni chaed yn nghored Wyddno
Erioed cystal a heno.
Elphin deg, sych dy ddeurudd -
Ni weryd fod yn rhybrudd;
Cyd-dybiaist na chefaist fudd -
Ni wna les gormodd cystudd;
Nac amen wyrthiau Dofydd -
Cyd bwyf bychan, wyf gelfydd;
O foroedd ac o fynydd,
Ac o eigiawn afonydd
Y daw duw a da i ddedwydd.
Elphin, gyneddfau dyddan,
Anwraidd yw dy amcan;
Nid rhaid it' ddirfawr gwynfan -
Gwell Duw na drwg ddarogan;
C'yd b'wyf eiddil a bychan
Ar gorferw môr lydan,
Mi a wnaf yn nydd cyfran
It' well na thrihau' maran.
Elphin, gyneddfau hynod,
Na sor ar dy gaffaelod,
Cyn b'wyf wan ar lawr fy nghod,
Mae rhinwedd ar fy nhafod:
Tra b'wyf fi i'th gyfragod,
Nid rhraid it' ddirfawr ofnod -
Ond coffa enwau'r Drindod,
Ni ddichon dim dy orfod.
No comments:
Post a Comment