GWILYM R. JONES
Mynydd Tryfan
(Yn Siarad)
Fy hedd sydd megis gweddi, - a'r awel
'Gâr hwian fy stori,
A rhydd ias fy ngheyrydd i
Gur i herwyr Eryri!
Gwyr talog ar y tylau, - trwy alaeth
Meistrolant fy nghreigiau:
Ystribed o bryfed brau -
Dringant i rwydi'r angau !
Os mwyn yw fy nghlogwyni, - gwae efô
Sy'n treisio 'mwtresi !
Mae bedd ar fy llechweddi -
Llofrudd o fynydd wyf i !
No comments:
Post a Comment