MATHONWY HUGHES
Afon Menai
Hen Fenai o'r afonydd,
Awr llan wmawr a llonydd,
Hen Fenai rudd ar fin hwyr ha'
A rwyda bob rhyw brydydd.
Trwy fwlch y Felinheli
Dolenna rhwng mud lwyni
Rhyw wyrddaf fro yn hardd ddi-frys,
Hudolus yw ei dyli.
Fin hwyr, fel rhyw lafn arian,
Fe dyr ei harfod eirian,
Drwy lwyni coed rhyw lannau cu,
Ei gwely rhwng dwy geulan.
Gwaneifiog gynaeafu
Y gwenyg fo'n brigwynnu
Wna ager-long a egyr lif
Ei dylif, a'i fydylu.
Mor dawel y mordwya
Y talog gychod hwylia'
I lanw a gwynt, ymlaen ac ôl,
Haf hwyrol ei llif ara !
Os gleiniog des ei glennydd
Ganmolir gan ymwelydd,
Ni hidia'r cychwr droeog hynt
Ei hyrddwynt ym min hwyrddydd.
No comments:
Post a Comment