HUW T. EDWARDS
Lleisiau'r Cynfyd
Mae nefoedd y mynyddoedd yn fy ngwaed
A lliwiau'r grug o ardd fy Eden gynt
Yn procio'r un hen dynfa wyllt i'm traed,
A lleisiau'r cynfyd sy'n areithfa'r gwynt;
Mae'r Capel Bach a Thal-y-fan yn un,
Fel gwedd y Gorswen yn aredig dôl;
Hwyntwy a'u deiliaid welaf ym mhob llun
Yn galw, galw: "Brysia adre'n ôl"
Pan af yn ôl mae'r llun yn newid lliw;
'D oes neb ar ôl i falu'r eithin mân,
Na neb i roddi olew ar fy mriw,
'R un Wi Pen-Parc i roi y Foel ar dân;
Mae'r cerrig geirwon fu'n aelwydydd llon
Yn gwanu fel cyllyll amser dan fy mron.
No comments:
Post a Comment