HUW T. EDWARDS.
Coed
I dorri min y gwynt o Fwlch y Ddeufaen
Y plannodd 'r hen uchelwr goed y Glyn,
Nid gwynt ei oes ei hun, ond oes gorwyrion
O groth nad oedd ond breuddwyd dyddiau gwyn.
Fe dyfodd deri cryfion a'r digwlwm ynn,
Nid felly had yr hen uchelwyr hyn.
'D oes ond yn aros feddfaen, meddw, meddw, syn.
Aeth hogiau'r Ro a choed y Glyn yn aberth
Dau ryfel ar orchymyn dywiau'r drin.
'D oes ond y bedair dderwen gam yn aros
I wawdio ac I sugno maeth y coedydd pîn.
A'u cadw'n llyglyd wantan ar ei ffin,
A gwreiddiau'r bedair fel pe'n dawnsio lin wrth lin,
Yn feddw,feddw, ar eu hen goedwigol win.
Bu Nel a minnau, fel yr hen uchelwr,
Yn plannu coed yng ngwres yr oriau gwiw,
A'r wiwer goch fel petai yn clustfeinio
I ddyddiadura'r hyn a ddaeth i'w chlyw
O fôn y deri cam a chariad wrth y llyw,
Cyn ffoi o'r wiwer goch o ofn y lwyd ei lliw,
A chyn i'm ffoi yn feddw, feddw, dan fy mriw.
No comments:
Post a Comment