MATHONWY HUGHES.
Cwm Silyn
Hen fynydd y fref unig,
Di-dwf erioed hyd ei frig.
Ei enfawr graig o'r cynfyd
Saif fyth iddo'n fwtres fud,
Yn darian fawr hyderus
I greigiau llaith grug a llus.
Cwm annwyl y cymunwn
Â'i wynt a'i haul gynt yw hwn,
Â'i aeaf mawr a'i haf mwyn,
Â'i dyner gawod wanwyn.
Hen fynydd y gylfinir
A glywn o'i ffurfafen glir,
A gwyllt hwyaden a gudd
Yn eigion ei fawnogydd;
Hwn erioed a fu yn rhan
Ohonof i fy hunan;
Ac I hedd ei lechweddi
Ni cheir ond bugail a chi,
Yntau yn rhan o grintach
Hafod foel y ddafad fach.
Hen fynydd o'r addfwynaf,
Hardd yw ei ddwys hwyrddydd haf.
Unig iawn ar fin y gwyll
Ei osteg a dyr distyll
Yr afonig drwy'i feini,
Mor lleddf yw murmur ei lli !
Digyffro pan ddarffo ddydd
Y llynnau dry'n wydr llonydd,
Tyner eu tawch tan wrid hwyr
Oni leisiont i laswyr
Awel oer ar li hwyrol...
Sïog yr hesg ar ei hôl.
Yna ceir y niwl yn cau
Am lonydd gwm a'i lynnau,
Am lan a chorlan a chwch.
Diwaelod ei dawelwch.
No comments:
Post a Comment