J. CEIRIOG HUGHES.
Gweithiau Ceiriog
Oriau'r Hwyr
Llyfr l.
Nant y Mynydd
NANT Y MYNYDD, groew, loew,
Yn ymdroelli tua'r pant;
Rhwng y brwyn yn sisial ganu,
O na bawn i fel y nant!
Grug y Mynydd yn eu blodau,
Edrych arnynt hiraeth ddug
Am gael aros ar y bryniau
Yn yr awel efo'r grug.
Adar mân y mynydd uchel,
Godant yn yr awel iach;
O'r naill drum i'r llall yn 'hedeg
O na bawn fel 'deryn bach !
Mab y Mynydd ydwyf inau
Oddicartref yn gwneud cân
Ond mae 'm calon yn y mynydd
Efo 'r grug a'r adar mân.
No comments:
Post a Comment