Bun's Miscellaneous

Bun's Miscellaneous
The third of my sites. My first site is personal, the second about the pub, this site is for anything that takes my fancy..

My Music

http://www.last.fm/user/BynTyElise/library

Thursday, 4 May 2017

J. CEIRIOG HUGHES.
Gweithiau Ceiriog
Dafydd y Gareg Wen
Y miwsig wedi ei addasu gan Owain Alaw. (Gwel "Gems of Welsh Melody.")

(Tyddyn yw y ''Careg-wen", ger Porthmadog. Yno yn y flwyddyn 1720 y ganwyd Dafydd, i'r hwn y priodolir cyfansoddiaeth y dôn sydd ar ei enw.
Dywedir hefyd, ond ar ba sail nis gwyddom, mai efe ydyw awdwr Codiad yr Hedydd, Difyrwch Gwyr Cricieth, ac alawon eraill. Yr oedd yn delynor medrus, ac yn gerddor tra theilwng. Y mae Syr Walter Scott wedi ysgrifenu ychydig benillion ar ei farwolaeth, a chyhoeddwyd hwy yn y Gems of Welsh Melody, o'r swyddfa hon. Y mae y dôn yn un o rhai prydferthaf sydd genym, ac yn nodedig o alarus a dwys. Dywed Syr Walter Scott - "The Welsh tradition bears that a Bard on his death-bed, demanded his harp and played the air to which these verses are adapted, and requested it might be performed at his funeral." Ond camgymeriad nefolydd a'r bardd Albanaidd enwog, ydoedd lleoli trigfa a marwolaeth Dafydd yn sir Forganwg. Dywedir iddo gyfansoddi Codiad yr Hedydd, pan yn dychwelyd gyda ei delyn o blas y Borth. Gwelai ehedydd llawen yn ymhoewi ar ei adenydd bychain yn yr awyr las uwch ei ben, ac eisteddai yntau wrth faen mawr, sydd eto i'w ganfod, nes gorphenodd y dôn. Bu y cerddor gobeithiol hwn farw yn 1749, yn 29 oed, a chladdwyd ef yn mynwent ynys Cynhaiarn, lle mae cofadail i'w goffadwriaeth, a llun ei delyn yn gerfiedig arni, yn nghyd â'r geiriau, - BEDD DAVID OWEN, neu DAFYDD Y GAREG-WEN.)

'R oedd Dafydd yn marw, pan safem yn fud
I wylio datodiad rhwng bywyd a byd;
"Ffarwel i ti 'mhriod, fy Ngwen," ebai ef,
"Fe ddaeth y gwahanu, cawn gwrdd yn y nef."

Fe gododd ei ddwylaw, ac anadl ddaeth
I chwyddo 'r tro olaf trwy'i fynwes oer, gaeth;
"Hyd yma'r adduned, anwylyd, ond moes
Im' gyffwrdd fy nhelyn yn niwedd fy oes."

Estynwyd y delyn, yr hon yn ddioed
Ollyngodd alawon na chlysid erioed;
'R oedd pob tant yn canu 'i ffarweliad ei hun,
A Dafydd yn marw wrth gyffwrdd pob un.

"O! cleddwch fi gartref yn hen Ynys Fôn!
Yn llwch y Derwyddon, a hon fyddo'r dôn,
Y dydd y'm gosodir fi'n isel fy mhen," -
A'i fysedd chwareuent yr "Hen Gareg Wen."

'R oedd Dafydd yn marw, pan safemyn fud
I wylio datodiad rhwng bywyd a byd:
Yn swn yr hen delyn gogwyddodd ei ben,
Ac angau rodd fywyd i'r "Hen Gareg Wen.

https://cy.wikipedia.org/wiki/Dafydd_y_Garreg_Wen



No comments:

Post a Comment

Annie Ebrel & Nolwen le Buhe

Latest Football Matches

Welsh sports

Merthyr's Finest: The Film

Howard Winstone

http://www.boxing.com/howard_winstone_idol_of_merthyr.html

Jean-Claude Dreyfus, and Merzhin au bar Ty Elise

Amazon

Katelsong

Our World; We are responsible for our children and our childrens' children

Music in Breizh/Bretagne

The Three Tenors

The Thistle & Shamrock; Welsh Roots

Too much Love can Kill You

Natalie, my favourite actress by far

Tribute to Natalie Wood

Elvis - Treat Me Nice

Elvis & Marilyn

Mahalia's Tribute to Elvis

Mahalia Jackson

Brigitte

Marilyn v. Brigitte

Pelé v. Maradonna

John Charles

John Charles

Denis Law

George Best

25 of the Best

Real Madrid

Barbarians v. All Blacks 1973 - That Try

Try of the Century?

French Rugby Tries

Inspirational Moments

Clips

Funniest Commercials

Evene

Followers

Blog Archive