RHYDWEN WILLIAMS.
Hydref 1958
(I'r Dr. H. T. Edwards)
Bydd ambell un yn edrych ar Gymru o bell,
Ynys yn y synhwyrau,
teyrnas rith, atgof;
A Ddygwyl Ddewi daw deigryn fel gwlithyn gloyw
I rudd lwyd wrth ei chofio a'i harddel hi.
A diau, y mae hi'n odidogrwydd drwy'r niwl,
Rhos y Pererinion, Afallon a Thir-Na'n-Og yn un;
Rhyfedd o beth yw gweld y Frenni o Dottenham, Sydenham neu Soho,
Ac y mae Bagillt yn wyrth ar ben bws yn Bermondsey.
Nid yw Pwyll fel Pwyll yn gymeradwy yn Annwn,
Rhaid newid ei wyneb a ffeirio acenion Glyn Cuch;
Bydd iddo ambell gamp fel gorfygu Hafgan, mae'n wir,
Ond eiddo Annwn, mwyach, nid Dyfed efô.
Ta waeth... Weithiau, o'r moelni llym, a'r gorthrymder
Daw un nad yw'n fodlon ymddiheuro i'n Doe na rhoi esgus
i'n Hyfory;
Bydd hedd hen gwm ei eni iddo'n batrwm bywyd,
A'r graig ddigyfaddawd fydd ei wynepryd o.
Ni ffy ef o Ben-y-ffridd, niwad Dy'n-ffridd-mynydd,
Dychwel mor aml â'r môr i Benmaen-mawr;
Nid ymddieithria oddi wrth Gwm Rhondda a'i hagrwch,
Na throi'r cableddau a'r llwch yn sentimentaleiddiwch mawr
Cymru yw ei gariad. Dangosodd inni oll sut i garu.
Ffordd o fyw yw ei wladgarwch; ffordd o farw, os Duw a'i
myn.
Heddiw, ei air ef sydd fel tywydd i'n tir;
Y mae Cymru'n rhydd eisoes ynddo ef.
No comments:
Post a Comment