MATHONWY HUGHES
Hen Arwr y Gân Werin
(Sef Robert Roberts, Tai'r Felin)
Hen arwr y gân werin - a'i Fari'n
Ddifyrrwch dilychwin,
Aur folawd Bob Tai'r Felin,
Heulog oedd ac fel y gwin.
Diddan, didwyll unawdydd nodedig,
O ysfa lawen a'i ddawns fel ewig
Harry Lauder Cymru wledig - oedd hwn,
Ei enw a gadwn yn fendigedig
No comments:
Post a Comment