Owain Glyndwr a Syr Lawrence
l
Aeth Owain Glyndwr ar ei daith
I Gastell gwr bonheddig:
"Oes cenad i ddeuddyn i mewn?"
Medd Owain Glyndwr yn Ffrengig.
"A gawn ni letya'r nos hon
Yn rhywle mewn congl diddos ?"
Bienvenu Monsieur, os dowch i'r ty
Pob croesaw medd Lawrence Berclos:
Caed swper, a gwely, a brecwast cytun,
A Lawrence a hoffodd y ddau estron-ddyn.
ll
Ar frecwast dechreuoddd ymgom,
Rhwng Owain Glyndwr a Berclos:
A'r barwn fu daer wrth y ddau,
Am aros am bythefnos. -
"R wy 'n disgwyl cael Owain Glyndwr
Ac amryw weilch i'r ddalfa:
Fe yrais bum ugain o wyr,
I'w ddal a'i ddwyn ef yma."-
"Mae eisiau cael gafael yn ogof y gwr,
A'i dynu ef allan," medd Owain Glyndwr.
lll
Brydnawn y pedwerydd dydd,
Medd Owain wrth y barwn:
" 'R wy 'n myn'd tra mae 'm traed yn rhydd,
Ond rwan cyn ffarweliwn -
Mae OWAIN GLYNDWR yn rhoi 'i law !
Yn llaw Syr Lawrence Berclos,
Yn diolch am bobpeth a gadd,
Am bedwar dydd a theirnos !"
Aeth Syr Lawrence yn fud mewn syndod a braw,
Ond syllodd ar Owain a gwasgodd ei law !
No comments:
Post a Comment